Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 20103.
(1)
Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 20108 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2)
Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas) —
(a)
ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o Rheoliad 242/2010; a
(b)
yn lle paragraff (3) rhodder y paragraff a ganlyn —
“(3)
Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”.
(3)
Yn lle paragraff (1) o reoliad 4 (gorfodi gofynion Rheoliad 767/2009), rhodder y paragraff a ganlyn —
“4.
(1)
Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae unrhyw berson —
(a)
sy’n mynd yn groes i ddarpariaethau Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu’n methu â chydymffurfio â hwy; neu
(b)
sy’n gosod ar y farchnad neu sy’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) neu 8, yn euog o dramgwydd.”.
(4)
Yn lle cynnwys Atodlen 1 (darpariaethau penodedig Rheoliad 767/2009) rhodder cynnwys Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.