xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1.  Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 225/2012 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymeradwyo sefydliadau sy’n gosod ar y farchnad, at ddefnydd bwyd anifeiliaid, gynnyrch sy’n deillio o olewau llysiau a brasterau cyfunol ac o ran y gofynion penodol ar gyfer cynhyrchu, storio, cludo a phrofi diocsinau olewau, brasterau a chynnyrch sy’n deillio ohonynt (OJ Rhif L77, 16.3.2012, t.1) (“Rheoliad 225/2012”).

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3368 (Cy.265)) drwy —

(a)ailddatgan y diffiniad o Reoliad (EC) Rhif 183/2005 er mwyn iddo, yn rhinwedd adran 20A o Ddeddf Dehongli 1978, gynnwys y diwygiadau a wnaed gan Reoliad 225/2012 (rheoliad 2(2));

(b)darparu bod unrhyw gyfeiriad yn O.S. 2005/3280 at Atodiad i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd (rheoliad 2(3));

(c)dynodi’r awdurdodau cymwys at ddibenion gorfodi darpariaethau penodol Rheoliad 225/2012 (rheoliad 2(4)); a

(d)darparu ar gyfer ffioedd sy’n daladwy am gymeradwyaethau sefydliadau penodedig (rheoliad 2(5) ac Atodlen 1).

3.   Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652 (Cy.220)) drwy 

(a)dileu’r cyfeiriadau at un o offerynnau’r UE sydd wedi ei ddiddymu (rheoliad 3(2)); a

(b)gwneud yn fwy eglur eiriad y darpariaethau gorfodi sy’n ymwneud â Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’r defnydd ohono (OJ Rhif L229, 1.9.2009, t.1) (rheoliad 3(3) a (4) ac Atodlen 2).

4.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.