Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr Atodiadau i offeryn yr UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) a 3(2)(b) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2014.
Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 20052.
(1)
(2)
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 183/2005” rhodder y diffiniad a ganlyn—
(3)
“(5)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Reoliad 183/2005 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”.
(4)
“4.
(1)
Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau Rheoliad 183/2005 yw —
(a)
mewn cysylltiad ag Erthyglau 9(1) a (3), 18(3), 20(2), 21(1) a 22(2)(b), yr Asiantaeth a’r awdurdod gorfodi;
(b)
mewn cysylltiad ag Erthyglau 7, 9(2), 10, 13, 14, 15, 16, 17, 18(1), (2) a (4) a 19(2), yr awdurdod gorfodi; ac
(c)
mewn cysylltiad ag Erthygl 19(1), yr Asiantaeth.
(2)
Yr awdurdodau cymwys at ddibenion yr adran sy’n dwyn y pennawd “Monitro Diocsinau” yn Atodiad II i Reoliad 183/2005 yw —
(a)
mewn cysylltiad â pharagraff 2(e), yr awdurdod gorfodi; a
(b)
mewn cysylltiad â pharagraff 7, yr awdurdod gorfodi a’r Asiantaeth.”.
(5)
Yn lle cynnwys Atodlen 2 (ffioedd sy’n daladwy am gymeradwyaethau) rhodder cynnwys Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 20103.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas) —
(a)
ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o Rheoliad 242/2010; a
(b)
“(3)
Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”.
(3)
“4.
(1)
Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae unrhyw berson —
(a)
sy’n mynd yn groes i ddarpariaethau Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu’n methu â chydymffurfio â hwy; neu
(b)
sy’n gosod ar y farchnad neu sy’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) neu 8, yn euog o dramgwydd.”.
(4)
Yn lle cynnwys Atodlen 1 (darpariaethau penodedig Rheoliad 767/2009) rhodder cynnwys Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
ATODLEN 1
“ATODLEN 2FFIOEDD SY’N DALADWY AM GYMERADWYAETHAU
Gweithgaredd y mae’n ofynnol i’r sefydliad gael cymeradwyaeth ar ei gyfer
Ffi (£)
Gweithgynhyrchu’n unig sylweddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) neu (b) o Reoliad 183/2005, neu eu gweithgynhyrchu a’u gosod ar y farchnad ac eithrio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny a bennir yn rheoliad 2(3), neu rag-gymysgeddau o’r cyfryw ychwanegion
451.00
Gosod ar y farchnad sylweddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10(1)(a) neu (b) o Reoliad 183/2005 ac eithrio’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny a bennir yn rheoliad 2(3), neu rag-gymysgeddau o’r cyfryw ychwanegion
226.00
Unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym Mhwynt 10 o’r Adran sy’n dwyn y pennawd “Cyfleusterau ac Offer” yn Atodiad II i Reoliad 183/2005
451.00”
ATODLEN 2
“ATODLEN 1Darpariaethau Penodedig Rheoliad 767/2009
Y ddarpariaeth benodedig
Y pwnc
Erthygl 4(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 4(3) ac Atodiad I
Gofynion diogelwch cyffredinol a gofynion eraill sydd i’w bodloni pan osodir bwyd anifeiliaid ar y farchnad neu pan ddefnyddir ef
Erthygl 5(1)
Estyn y gofynion mewn perthynas â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd mewn deddfwriaeth arall i fod yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
Erthygl 5(2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)
Rhwymedigaeth ar berson sy’n gyfrifol am labelu i roi gwybodaeth ar gael i’r awdurdod cymwys
Erthygl 9
Rheolaethau ar farchnata bwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol
Erthygl 11, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3), Atodiadau II a IV a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid
Rheolau ac egwyddorion sy’n llywodraethu labelu a chyflwyno bwyd
Erthygl 12(4) a (5)
Dyletswydd ar weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid i weithredu â phob gofal dyladwy er mwyn helpu i sicrhau cydymffurfedd â gofynion labelu ac i sicrhau bod manylion labelu gorfodol yn cael eu trosglwyddo drwy’r gadwyn fwyd ar ei hyd.
Erthygl 13(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)
Amodau cyffredinol ar honiadau ynghylch nodweddion neu swyddogaethau bwyd anifeiliaid wrth ei labelu neu ei gyflwyno
Erthygl 13(2) a (3), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)
Amodau arbennig sy’n gymwys i honiadau ynghylch gwneud yr eithaf o’r maethiad ac ynghylch cynnal neu warchod yr amodau ffisiolegol
Erthygl 14(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)
Y gofynion ar gyfer cyflwyno’r manylion labelu gorfodol
Erthygl 15, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3), Atodiad VI a VII ac Erthygl 21
Gofynion labelu gorfodol cyffredinol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd
Erthygl 16, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21, Atodiad II a V a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid
Gofynion labelu penodol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid
Erthygl 17(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 ac Atodiad II, VI a VII
Gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd anifeiliaid cyfansawdd
Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)
Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol (bwydydd anifeiliaid dietegol)
Erthygl 19, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3)
Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes
Erthygl 20(1), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac Atodiad VIII
Gofynion ychwanegol ar gyfer labelu bwyd anifeiliaid nad yw’n cydymffurfio, megis bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys deunyddiau a halogwyd
Erthygl 23
Gofynion sy’n ymwneud â phecynnu a selio deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd sydd i’w rhoi ar y farchnad
Erthygl 24(5)
Gofyniad os defnyddir enw deunydd bwyd anifeiliaid a restrir yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, fod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Catalog
Erthygl 24(6)
Rhwymedigaeth ar berson sy’n gosod ar y farchnad am y tro cyntaf ddeunydd bwyd anifeiliaid nad yw wedi’i restru yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid i roi hysbysiad o’i ddefnyddio
Erthygl 25(4)
Gofyniad os dangosir y Codau Cymunedol ar arfer labelu da ar labelu, fod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Codau.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 225/2012 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymeradwyo sefydliadau sy’n gosod ar y farchnad, at ddefnydd bwyd anifeiliaid, gynnyrch sy’n deillio o olewau llysiau a brasterau cyfunol ac o ran y gofynion penodol ar gyfer cynhyrchu, storio, cludo a phrofi diocsinau olewau, brasterau a chynnyrch sy’n deillio ohonynt (OJ Rhif L77, 16.3.2012, t.1) (“Rheoliad 225/2012”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3368 (Cy.265)) drwy —
ailddatgan y diffiniad o Reoliad (EC) Rhif 183/2005 er mwyn iddo, yn rhinwedd adran 20A o Ddeddf Dehongli 1978, gynnwys y diwygiadau a wnaed gan Reoliad 225/2012 (rheoliad 2(2));
darparu bod unrhyw gyfeiriad yn O.S. 2005/3280 at Atodiad i Reoliad (EC) Rhif 183/2005 i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd (rheoliad 2(3));
dynodi’r awdurdodau cymwys at ddibenion gorfodi darpariaethau penodol Rheoliad 225/2012 (rheoliad 2(4)); a
darparu ar gyfer ffioedd sy’n daladwy am gymeradwyaethau sefydliadau penodedig (rheoliad 2(5) ac Atodlen 1).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652 (Cy.220)) drwy —
dileu’r cyfeiriadau at un o offerynnau’r UE sydd wedi ei ddiddymu (rheoliad 3(2)); a
gwneud yn fwy eglur eiriad y darpariaethau gorfodi sy’n ymwneud â Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’r defnydd ohono (OJ Rhif L229, 1.9.2009, t.1) (rheoliad 3(3) a (4) ac Atodlen 2).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.