Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2014.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 20052

1

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 20056 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).

2

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 183/2005” rhodder y diffiniad a ganlyn—

  • “ystyr “Rheoliad 183/2005” (“Regulation 183/2005”) yw Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 12 Ionawr 2005 sy’n gosod gofynion o ran hylendid bwyd anifeiliaid7;”.

3

Ar ôl paragraff (4) o reoliad 2, ychwaneger y paragraff a ganlyn —

5

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Reoliad 183/2005 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

4

Yn lle rheoliad 4 (awdurdodau cymwys) rhodder y rheoliad a ganlyn —

4

1

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau Rheoliad 183/2005 yw —

a

mewn cysylltiad ag Erthyglau 9(1) a (3), 18(3), 20(2), 21(1) a 22(2)(b), yr Asiantaeth a’r awdurdod gorfodi;

b

mewn cysylltiad ag Erthyglau 7, 9(2), 10, 13, 14, 15, 16, 17, 18(1), (2) a (4) a 19(2), yr awdurdod gorfodi; ac

c

mewn cysylltiad ag Erthygl 19(1), yr Asiantaeth.

2

Yr awdurdodau cymwys at ddibenion yr adran sy’n dwyn y pennawd “Monitro Diocsinau” yn Atodiad II i Reoliad 183/2005 yw —

a

mewn cysylltiad â pharagraff 2(e), yr awdurdod gorfodi; a

b

mewn cysylltiad â pharagraff 7, yr awdurdod gorfodi a’r Asiantaeth.

5

Yn lle cynnwys Atodlen 2 (ffioedd sy’n daladwy am gymeradwyaethau) rhodder cynnwys Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 20103

1

Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 20108 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).

2

Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas) —

a

ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o Rheoliad 242/2010; a

b

yn lle paragraff (3) rhodder y paragraff a ganlyn —

3

Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

3

Yn lle paragraff (1) o reoliad 4 (gorfodi gofynion Rheoliad 767/2009), rhodder y paragraff a ganlyn —

4

1

Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae unrhyw berson —

a

sy’n mynd yn groes i ddarpariaethau Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu’n methu â chydymffurfio â hwy; neu

b

sy’n gosod ar y farchnad neu sy’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) neu 8, yn euog o dramgwydd.

4

Yn lle cynnwys Atodlen 1 (darpariaethau penodedig Rheoliad 767/2009) rhodder cynnwys Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru