- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2014.
2.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(1) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “Rheoliad 183/2005” rhodder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Rheoliad 183/2005” (“Regulation 183/2005”) yw Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 12 Ionawr 2005 sy’n gosod gofynion o ran hylendid bwyd anifeiliaid(2);”.
(3) Ar ôl paragraff (4) o reoliad 2, ychwaneger y paragraff a ganlyn —
“(5) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i Reoliad 183/2005 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”.
(4) Yn lle rheoliad 4 (awdurdodau cymwys) rhodder y rheoliad a ganlyn —
“4.—(1) Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau Rheoliad 183/2005 yw —
(a)mewn cysylltiad ag Erthyglau 9(1) a (3), 18(3), 20(2), 21(1) a 22(2)(b), yr Asiantaeth a’r awdurdod gorfodi;
(b)mewn cysylltiad ag Erthyglau 7, 9(2), 10, 13, 14, 15, 16, 17, 18(1), (2) a (4) a 19(2), yr awdurdod gorfodi; ac
(c)mewn cysylltiad ag Erthygl 19(1), yr Asiantaeth.
(2) Yr awdurdodau cymwys at ddibenion yr adran sy’n dwyn y pennawd “Monitro Diocsinau” yn Atodiad II i Reoliad 183/2005 yw —
(a)mewn cysylltiad â pharagraff 2(e), yr awdurdod gorfodi; a
(b)mewn cysylltiad â pharagraff 7, yr awdurdod gorfodi a’r Asiantaeth.”.
(5) Yn lle cynnwys Atodlen 2 (ffioedd sy’n daladwy am gymeradwyaethau) rhodder cynnwys Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
3.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010(3) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli a chwmpas) —
(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o Rheoliad 242/2010; a
(b)yn lle paragraff (3) rhodder y paragraff a ganlyn —
“(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38 neu Reoliad 767/2009 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”.
(3) Yn lle paragraff (1) o reoliad 4 (gorfodi gofynion Rheoliad 767/2009), rhodder y paragraff a ganlyn —
“4.—(1) Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae unrhyw berson —
(a)sy’n mynd yn groes i ddarpariaethau Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu’n methu â chydymffurfio â hwy; neu
(b)sy’n gosod ar y farchnad neu sy’n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid sy’n methu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) neu 8, yn euog o dramgwydd.”.
(4) Yn lle cynnwys Atodlen 1 (darpariaethau penodedig Rheoliad 767/2009) rhodder cynnwys Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Rhagfyr 2013
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: