RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Grant newydd at gyrsiau rhan-amser99
1
Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs rhan-amser dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.
2
Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael grant newydd at gyrsiau rhan-amser mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig os yw dwysedd yr astudio yn ystod y flwyddyn honno yn llai na 50 y cant.
3
At ddibenion paragraff (2) mae dwysedd yr astudio yn ystod blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig i’w gyfrifo yn unol â rheoliad 97(2) a (3).
4
Uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser at ddibenion paragraff (5) yw £1,155.
5
Cyfrifir swm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser sy’n daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig fel a ganlyn—
a
mae uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn daladwy pan fo gan fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd, ar ddyddiad y cais am y grant, hawlogaeth—
i
o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;
ii
o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i lwfans o dan y trefniadau a elwir y Fargen Newydd;
iii
o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;
iv
i gredyd cynhwysol; neu
v
i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;
b
mae uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn daladwy pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £26,095;
c
pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180 swm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser sy’n daladwy yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o uchafswm y grant newydd at gyrsiau rhan-amser £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;
d
mae grant newydd at gyrsiau rhan-amser o £50 yn daladwy pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180;
e
nid oes grant newydd at gyrsiau rhan-amser ar gael pan fo’r incwm perthnasol yn fwy na £28,180.
6
At ddibenion y rheoliad hwn—
a
mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd gyfrifoldeb rhiant amdano;
b
ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu mewn perthynas â hi ar gyfer grant newydd at gyrsiau rhan-amser o dan y rheoliad hwn;
c
ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw yn ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
d
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ar ei gyfer at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
e
ystyr “incwm” (“incwm”) yw incwm gros o bob ffynhonnell ac eithrio—
i
unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a
ii
unrhyw gredydau treth a ddyfernir yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
f
yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
i
priod myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
ii
partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
iii
person sy’n byw fel arfer gyda myfyriwr rhan-amser cymwys newydd fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
g
ni thrinnir person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) fel partner—
i
os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
ii
os yw’r person yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
h
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
i
mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7).
7
Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn hafal i adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—
a
£2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd;
b
£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd; ac
c
£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd.
8
Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu adnoddau’r myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
9
Yn y rheoliad hwn ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys newydd ar gyfer y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm incwm ar gyfer y flwyddyn honno unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am grant newydd at gyrsiau rhan-amser yn bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys newydd.