RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser98

1

Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs rhan-amser dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.

2

Nid oes benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig sy’n flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus.

3

Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£2,625; neu

b

y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

4

Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£6,750; neu

b

y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

5

Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yw’r lleiaf o’r canlynol—

a

£4,500; neu

b

y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.

6

Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys nad yw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael unrhyw gymorth o dan y rheoliad hwn.