- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
98.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs rhan-amser dynodedig neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef.
(2) Nid oes benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig sy’n flwyddyn bwrsari neu’n flwyddyn Erasmus.
(3) Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£2,625; neu
(b)y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
(4) Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£6,750; neu
(b)y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
(5) Uchafswm y benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser dynodedig a ddarperir gan sefydliad preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yw’r lleiaf o’r canlynol—
(a)£4,500; neu
(b)y ffi sy’n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
(6) Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys nad yw’n fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd hawl i gael unrhyw gymorth o dan y rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: