RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Cymorth at gyrsiau rhan-amser sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 (grant at ffioedd, a grant at lyfrau, teithio a gwariant arall)97

1

At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2014 yw—

a

grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—

i

swm y grant ffioedd sylfaenol (a gyfrifir yn unol â’r paragraffau canlynol), neu

ii

y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a

b

grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs rhan-amser dynodedig.

2

Mae’r grant ffioedd sylfaenol yn amrywio yn ôl dwysedd yr astudio.

Cyfrifir y dwysedd astudio, a mynegir ef fel canran, fel a ganlyn:

PTFTx100math

ac y mae—

  • PT yn dynodi nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill sydd i’w dyfarnu i’r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau’n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae’n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi o dan reoliad 111; ac

  • FT yn dynodi—

  1. a

    os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;

  2. b

    os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill y byddai’n ofynnol i fyfyriwr llawnamser safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs hwnnw.

3

At ddibenion paragraff (2)—

a

mae “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) i’w dehongli’n unol â rheoliad 95; a

b

mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i’w gyfrifo’n unol â rheoliad 95.

4

Y “grant ffioedd sylfaenol” (“basic fee grant”) yw—

a

£690, os yw’r dwysedd astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);

b

£820, os yw’r dwysedd astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);

c

£1,025, os yw’r dwysedd astudio yn 75 y cant neu’n fwy (“lefel 3”).

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheoliad 114(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

a

os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar ddyddiad y cais, hawlogaeth—

i

o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;

ii

o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i lwfans o dan y trefniadau a elwir y Fargen Newydd;

iii

o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;

iv

i gredyd cynhwysol; neu

v

i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;

b

os yw’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;

c

os yw’r incwm perthnasol yn £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);

d

os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £16,865 ond yn llai na £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy, a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw’r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);

e

os yw’r incwm perthnasol yn £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;

f

os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);

g

os yw’r incwm perthnasol yn £26,095 neu’n fwy ond yn llai na £28,180, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw’r swm sy’n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

h

os yw’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;

i

os yw’r incwm perthnasol yn fwy na £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).

6

Os yw paragraff (5)(d) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy’n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o’r symiau canlynol—

a

£50 plws £1 arall am bob £14.52, £11.90 neu £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu

b

os yw’r grant ffioedd sylfaenol yn fwy na’r ffioedd gwirioneddol, swm sy’n hafal i’r hyn sy’n weddill ar ôl didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant ffioedd sylfaenol a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).

7

At ddibenion y rheoliad hwn—

a

mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i’w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

b

ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

c

ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

d

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

e

ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—

i

unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

ii

unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

f

yn ddarostyngedig i is-baragraff (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

i

priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

ii

partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

iii

person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

iv

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil iddo pan fo’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

g

nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—

i

os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

ii

os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;

h

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

i

mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8).

8

Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i’w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, llai—

i

£2,000 mewn perthynas â phartner y myfyriwr rhan-amser cymwys;

ii

£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner; a

iii

£1,000 mewn perthynas â phob un plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ar ei bartner.

9

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy nag adnoddau ariannol y myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, rhaid iddynt asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

10

Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr rhan-amser cymwys, ar y dyddiad gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.

11

Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o’r statws hwnnw neu fwy gan Weinidogion Cymru o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.

12

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr rhan-amser cymwys newydd.