RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Cyrsiau rhan-amser dynodedig95.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 93—
(a)
os yw’n gwrs a restrir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—
(i)
a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;
(ii)
sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu
(iii)
a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs;
(b)
os yw’n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;
(c)
os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na—
(i)
dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs llawnamser cyfatebol pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Medi 2014; neu
(ii)
pedair gwaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs llawnamser cyfatebol pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014;
(d)
os yw’n cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(e)
nad yw wedi ei ddynodi gan neu o dan reoliad 5; ac
(f)
nad yw wedi ei ddynodi gan neu o dan reoliad 78.
(2)
Nid yw cwrs sy’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3)
Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.
(4)
At ddibenion paragraff (1)—
(a)
mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;
(b)
bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac
(c)
(5)
At ddibenion paragraff (1)(c)—
(a)
ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser dan sylw;
(b)
ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—
(i)
os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr llawnamser safonol i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;
(ii)
os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn ei gymryd i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol;
(c)
“myfyriwr llawnamser safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—
(i)
ei fod wedi dechrau cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;
(ii)
nad yw wedi ei esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol;
(iii)
nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a
(iv)
nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.
(6)
At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 93(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).