RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER
Myfyrwyr rhan-amser cymwys93
1
Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd o’r myfyriwr â chwrs rhan-amser dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.
2
Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—
a
os yw Gweinidogion Cymru, wrth iddynt asesu cais y person hwnnw am gymorth o dan reoliad 111, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
b
os nad yw’r person wedi ei hepgor gan baragraff (3).
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—
a
os rhoddwyd neu os talwyd i A mewn perthynas ag ymgymryd ohono â’r cwrs rhan-amser dynodedig—
i
bwrsari gofal iechyd, pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
ii
unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007; neu
iii
lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
b
os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
c
os yw A wedi cyrraedd 18 oed a heb ddilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;
d
os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy’i ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu
e
yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw A yn garcharor.
4
Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.
5
At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
6
Mewn achos lle mae’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, oni fydd y cytundeb ei wneud—
a
cyn 25 Medi 1991, a
b
gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur,
ni fydd paragraff (3)(c) yn gymwys.
7
Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (8)(a) neu (b).
8
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—
a
bod―
i
y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
ii
y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs rhan-amser presennol; a
iii
statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu;
b
bod—
i
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen fod y person—
aa
yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig;
bb
yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig ac eithrio’r cwrs rhan-amser presennol; neu
cc
yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;
ii
statws y person fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs rhan-amser presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
iii
y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a
iv
statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys heb ei derfynu.
9
Os bydd—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
b
ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant, yn ôl fel y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
10
Os bydd—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
b
y cyfnod y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
11
Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu’n fyfyriwr cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
12
Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 97(1)(b), rheoliad 99, rheoliad 100 neu reoliadau 101 i 110 os paragraff 9 yw’r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano.
13
Yn ddarostyngedig i baragraffau (14) a (15), mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—
a
o dan reoliad 97(1)(a) os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru; neu
b
o dan reoliadau 97(1)(b), 100 neu 101 i 110 os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn ymgymryd â’r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.
14
Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 110 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser, oni bai bo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
15
Ni fydd gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl bellach i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 110 mewn perthynas â chwrs dysgu o bell rhan-amser os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
16
Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110 os yw—
a
wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser a ddechreuodd cyn 1 Medi 2014 am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a’i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (17); neu
b
wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2014 am gyfanswm o un mlynedd ar bymtheg a’i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (17).
17
Y benthyciadau a’r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (16) yw—
a
benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
b
benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi ei roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu
c
benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.
18
Yn ddarostyngedig i baragraffau (19) ac (20), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110 os oes gan y myfyriwr radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
19
At ddibenion paragraff (18), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—
a
os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a
b
os yw’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs rhan-amser presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).
20
Nid yw paragraff (18) yn rhwystro myfyriwr rhan-amser cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan reoliadau 97 i 99 neu reoliadau 101 i 110—
a
os yw’r cwrs rhan-amser presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010;
b
os yw’r cwrs yn parhau am ddim mwy na phedair blynedd; ac
c
os nad yw’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.
21
Ni chaiff fyfyriwr rhan-amser cymwys yr hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—
a
ar gyfer mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;
b
ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;
c
ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;
d
ar gyfer cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.