RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Talu grantiau ar gyfer ffioedd90

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant mewn perthynas â ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys i’w gael unwaith y byddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

a

cais am daliad; a

b

cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig.

2

Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) fel y gwelant yn dda.

3

Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy’n briodol.

4

Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig” (“confirmation of the eligible distance learning student’s attendance on the designated distance learning course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys dysgu o bell—

a

wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs hwnnw, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad y cyfan o’r grant mewn perthynas â ffioedd neu’r rhandaliad cyntaf o’r grant mewn perthynas â ffioedd; neu

b

yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac yn parhau i ymgymryd â’r cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant mewn perthynas â ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.

5

Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr dysgu o bell cymwys o’r cwrs dysgu o bell dynodedig.