RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Trosi statws – myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig88

1

Pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig ac yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—

a

pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

b

pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

2

Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

a

pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan Ran 5 i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;

b

mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo, ar wahân i’r rheoliad hwn, mewn cysylltiad â’r myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean os daw’r myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno;

c

pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl sy’n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

d

pan fo’r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu’r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am y benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â’r paragraff hwnnw.

3

Pan fo’r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad at gostau byw yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu’r uchafswm a gynyddwyd o’r cyfryw fenthyciad (yn ôl fel y digwydd) o ddau draean, ac os yw’r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.