RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER
Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd85
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 84.
2
Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw’n gallu rhoi’r cadarnhad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(ii).
3
Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
a
pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—
i
sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
ii
sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs dysgu o bell dynodedig;
b
mewn unrhyw achos arall, datganiad—
i
sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
ii
sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—
a
swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;
b
ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o’r farn fod y ceisydd yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac
c
mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o’r farn bod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm heblaw’r ffaith na all y ceisydd fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy’n ymwneud ag anabledd y ceisydd.