RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Ceisiadau am gymorth84

1

Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a’i chyflwyno i Weinidogion Cymru.

2

Rhaid anfon gyda’r cais—

a

datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a

b

unrhyw ddogfennaeth ychwanegol a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

3

Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.

6

Nid yw paragraff (5) yn gymwys—

a

pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 77 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;

b

pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu

c

pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.