RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl83

1

Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â’r Rhan hon i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.

2

Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys odano yw paragraff 9.

3

Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari.

4

Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

5

Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl bellach i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

6

Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr.

7

Ni ddylai swm y grant o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na’r canlynol—

a

£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

b

£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

c

y gwariant ychwanegol a ysgwyddir—

i

o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;

ii

o fewn neu o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

d

£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a ysgwyddwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.

8

Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10), mae’r grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

9

Pan fo grant o dan y rheoliad hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (7)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

10

Pan fo rheoliad 77(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (7)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 77(4) ddigwydd y caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.