RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER
Cymorth at gyrsiau dysgu o bell80
1
At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—
a
grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau canlynol—
i
£1,025; neu
ii
y ffioedd gwirioneddol, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a
b
grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig.
2
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan baragraff (1)(b) os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys oddi tano yw paragraff 9.
3
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn—
a
os yw’n fyfyriwr anabl; a
b
os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig—
i
bwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys; neu
ii
lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys ai peidio.
4
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.
5
Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl bellach i gael cymorth o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
6
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfnod cyfanredol o wyth o flynyddoedd academaidd ac wedi cael benthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (7) mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny.
7
Y benthyciadau a’r grantiau yw—
a
benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o Ddeddf 1998;
b
benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 199871; neu
c
benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 198072.
8
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
9
At ddibenion paragraff (7), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—
a
os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer cwrs gradd gyntaf y myfyriwr dysgu o bell cymwys; a
b
y myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).
10
Nid oes cymorth yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig.