RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER
Cyfnod cymhwystra79
1
Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 76.
2
Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).
3
Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 76, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.
4
Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys (“A” yn y paragraff hwn ac ym mharagraff (5))—
a
yn tynnu’n ôl o’i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi statws A o dan reoliad 87, 88, 89 neu 115; neu
b
yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
5
Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
6
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
a
terfynu’r cyfnod cymhwystra;
b
penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;
c
trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 92.
7
Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.