RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER
Cyrsiau dysgu o bell dynodedig78
1
Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 76 os dynodir ef gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—
a
bod y cwrs yn cael ei restru yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
b
bod y cwrs yn gwrs llawnamser;
c
bod y cwrs yn parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;
d
nad yw’n ofynnol gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs bod myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn bresennol ar y cwrs; ac
e
yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.
3
At ddibenion penderfynu a yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—
a
unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—
i
cofrestru neu ymrestru;
ii
arholiad;
b
unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;
c
unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad sy’n darparu’r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw’n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad hwnnw.
4
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—
a
os yw’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a
b
os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.
5
Mae cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—
a
os yw myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 87 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; a
b
pe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.