RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER
Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd77
1
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
a
caiff myfyriwr yr hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
b
nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.
2
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
a
caiff myfyriwr yr hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a
b
nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.
3
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
a
caiff myfyriwr yr hawl i grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; ac
b
nid yw grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.
4
Y digwyddiadau yw—
a
bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;
b
bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
c
bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
d
bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;
e
bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
f
bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;
g
bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;
h
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu
i
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd.