RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER
Myfyrwyr dysgu o bell cymwys76
1
Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu ei gais am gymorth o dan reoliad 84, yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (8) nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—
a
os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd i A neu os talwyd i A, mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—
i
bwrsari gofal iechyd pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
ii
unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 200769; neu
iii
lwfans gofal iechyd yr Alban a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;
b
os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
c
os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;
d
os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu
e
yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw A yn garcharor.
4
Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—
a
os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon yn fyfyriwr anabl; a
b
os rhoddwyd neu os talwyd i’r person mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—
i
bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu
ii
lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y person ai peidio.
5
Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd i’r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl bwrw dedfryd o’r fath.
6
At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
7
Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—
a
cyn 25 Medi 1991; a
b
gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.
8
Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (9)(a) neu (b).
9
Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yw—
a
bod―
i
y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
ii
y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs dysgu o bell presennol; a
iii
statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.
b
bod—
i
Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—
aa
yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;
bb
yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig ac eithrio’r cwrs dysgu o bell presennol; neu
cc
yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;
ii
statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (b)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
iii
y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i); a
iv
statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.
10
Pan fo—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
b
ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu briod, partner sifil, rhiant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu lys-riant A, yn ôl fel y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 200270),
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
11
Pan fo—
a
Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
b
ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
12
Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
13
Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—
a
at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;
b
at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;
c
at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;
d
at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl- radd dynodedig.