RHAN 10TALIADAU

Gordaliadau74

1

Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

2

Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i’r myfyriwr cymwys o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na’r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid ydynt o’r farn nad yw’n briodol iddynt wneud hynny.

4

Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

5

Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—

a

mae Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;

b

mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

c

nid yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr cyn i’w gyfnod cymhwystra ddod i ben.

7

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw—

a

mae cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

b

gwneir taliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i’r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben.

8

Os oes gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â’r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

9

Caniateir adennill unrhyw ordaliad o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—

a

drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

b

drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.

10

Caniateir adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os yw, ym marn Gweinidogion Cymru—

a

y gordaliad wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu’n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ba un a oes hawl gan y myfyriwr ai peidio i gael benthyciad neu ar swm y benthyciad y mae hawl ganddo i’w gael;

b

unrhyw wybodaeth y mae’r myfyriwr wedi ei darparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu

c

y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.

11

Pan fo modd adennill gordaliad o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (10), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—

a

drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

b

drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.

12

Os oes gordaliad wedi bod o fenthyciad at gostau byw nad oes modd ei adennill o dan baragraff (10), caiff Gweinidogion Cymru dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.

13

Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.