RHAN 10TALIADAU

Gofynion o ran gwybodaeth72

1

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am wybodaeth y maent o’r farn ei bod yn ofynnol ar gyfer adennill benthyciad.

2

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’n ddinesydd ynddi, neu ei dystysgrif geni.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt gadw’n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes y bo’r ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.

4

Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd neu fyfyriwr cymwys yn ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

5

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynglŷn â’r dull o ad-dalu o dan y rheoliad hwn, cânt gadw’n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes y bo’r ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano.