RHAN 10TALIADAU

Darparu rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig71

1

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o ran unrhyw fenthyciad fod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o ran y benthyciad i’r myfyriwr cymwys cyn iddynt gael eu bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â’r amod hwnnw.

3

Er gwaethaf paragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi eu bodloni y byddai’n briodol iddynt wneud taliad o’r fath oherwydd amgylchiadau eithriadol, wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymwys pan nad yw’r myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â’r amod a osodwyd o dan baragraff (1).