RHAN 10TALIADAU
Talu grantiau at gostau byw70
1
Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o’r farn eu bod yn briodol.
2
Mae’n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan y Rhan honno, i fyfyriwr cymwys cyn i’r cadarnhad o bresenoldeb ddod i law onid oes eithriad yn gymwys, y cyfeirir ato ym mharagraff (4).
4
Mae eithriad yn gymwys at ddibenion paragraff (3)—
a
pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu’r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law Gweinidogion Cymru; neu
b
pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.
5
Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.
6
Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i’w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo’n electronig.
7
Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r diwrnod hwnnw.
8
Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl.
9
Wrth benderfynu a oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (7), mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu’r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu’r cymorth yn effeithio ar allu’r myfyriwr cymwys i barhau â’r cwrs.
10
Nid oes cymorth yn daladwy o dan Ran 5 mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
11
Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
a
swm pob grant at gostau byw y mae’r myfyriwr hwnnw’n gymwys i’w gael ac a fyddai’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol pe na fyddai cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw wedi dod i ben (y “swm llawn”); a
b
faint o’r swm llawn sy’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod sy’n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).
12
Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw’r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
13
Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—
a
cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o’r grant hwnnw; neu
b
os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra’r myfyriwr hwnnw mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod swm llawn y grant yn daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.
14
Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw taliad grant at gostau byw mewn perthynas â’r cyfnod talu perthnasol i’w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y’i telir, swm y grant hwnnw sy’n daladwy yw’r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac yn briodol i benderfynu bod swm llawn y grant hwnnw’n daladwy mewn perthynas â’r cyfnod talu hwnnw.
15
Nid yw paragraff (14) yn gymwys i daliad grant at gostau byw i fyfyrwyr anabl o ran offer arbenigol.
16
Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr amgylchiadau i gyd i’r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â’r cyfnod o absenoldeb.
17
Wrth benderfynu pa un a fyddai’n briodol i gymorth fod yn daladwy o dan baragraff (16) mae’r amgylchiadau y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a’r caledi ariannol a achosid pe na bai’r cymorth yn cael ei dalu.
18
Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs os yw’r myfyriwr cymwys yn methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac na fu’n absennol am fwy na 60 diwrnod.
19
Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael, naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—
a
os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol, a chânt wneud hynny yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol;
b
os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae hawl gan y myfyriwr cymwys i’w gael yw’r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o weddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu;
c
os yw swm y gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i’w dalu, rhaid gostwng y gweddill hwnnw i ddim, a didynnu’r balans o unrhyw grant arall at gostau byw y mae hawl gan y myfyriwr yn i’w gael mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd;
d
gellir adennill unrhyw ordaliad sy’n weddill yn unol â rheoliad 74.