RHAN 2CYMHWYSTRA

Astudio blaenorol7

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (6), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig hawl i gael grant ar gyfer ffioedd, grant at ffioedd, grant newydd at ffioedd, benthyciad cyfrannu at ffioedd na benthyciad at ffioedd.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) sy’n dechrau ar ei gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw A wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig—

a

pan fo’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

b

pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a’r cwrs—

i

yn gwrs llawnamser; neu

ii

yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth llawnamser) a phan fo’r cwrs naill ai—

aa

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

bb

yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

cc

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; ac

c

nad yw’r myfyriwr cymwys yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig.

4

Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(6) a 5(7) a’i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i’r myfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu’r cymwysterau cyfatebol, ni rwystrir y myfyriwr cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o’r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith bod ganddo’r radd anrhydedd honno.

5

Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

a

os yw’r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;

b

os yw’r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan—

i

bwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu

ii

lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs presennol; neu

c

os yw’r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, sydd—

i

yn gwrs llawnamser; neu

ii

yn gwrs rhan-amser sydd naill ai—

aa

wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

bb

yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy’n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

cc

wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a’r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs.

6

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig sy’n gwrs mynediad graddedig carlam.