RHAN 10TALIADAU
Talu grantiau neu fenthyciadau ar gyfer ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd69
1
Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn atebol i dalu iddo.
2
Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, nac unrhyw randaliad o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael, oni fyddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—
a
cais am daliad; a
b
cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig” (“confirmation of the new system eligible student’s attendance on the designated course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—
a
wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs dynodedig, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad llawn neu randaliad cyntaf o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd; neu
b
yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn parhau i ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.
5
Os yw asesu cais myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.
6
Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd o’r cwrs dynodedig.