- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
69.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael i awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn atebol i dalu iddo.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau a ystyriant yn briodol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, nac unrhyw randaliad o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael, oni fyddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—
(a)cais am daliad; a
(b)cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ar y cwrs dynodedig” (“confirmation of the new system eligible student’s attendance on the designated course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—
(a)wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs dynodedig, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad llawn neu randaliad cyntaf o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd; neu
(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dynodedig ac yn parhau i fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai’n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn parhau i ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.
(5) Os yw asesu cais myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant at ffioedd, y grant newydd at ffioedd neu’r benthyciad at ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i’w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.
(6) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar gwrs dynodedig, neu’n rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd o’r cwrs dynodedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: