RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Didynnu o fenthyciadau at gostau byw62

1

Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn o’r benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliad 67.

2

Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol o dan reoliad 67.