RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd60

1

Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â’r chwarteri hynny o’r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

2

Y digwyddiadau yw—

a

bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

b

bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

c

bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd os yw’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

d

bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

e

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

f

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

g

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

3

Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.

4

Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy’n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau’r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.

5

Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o’r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai’n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai’r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy’n gymwys i’r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.