RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW
Myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol56
1
Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—
a
os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
i
yng nghategori 1, yn £1,912;
ii
yng nghategori 2, yn £3,583;
iii
yng nghategori 3, yn £2,548;
iv
yng nghategori 4, yn £2,548;
v
yng nghategori 5, yn £2,548.
b
os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(7), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
i
yng nghategori 1, yn £1,912;
ii
yng nghategori 2, yn £3,583;
iii
yng nghategori 3, yn £3,048;
iv
yng nghategori 4, yn £3,048;
v
yng nghategori 5, yn £2,548.
c
os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
- i
yng nghategori 1, yn £3,020;
- ii
yng nghategori 2, yn £5,466;
- iii
yng nghategori 3, yn £4,652;
- iv
yng nghategori 4, yn £4,652;
- v
yng nghategori 5, yn £3,902;
- i
Y yw’r swm penodedig ym mharagraff (d).
d
y swm penodedig yw—
i
£664, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;
ii
£1,329, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;
iii
dim, pan nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
2
Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys, fel a ganlyn—
a
os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
i
yng nghategori 1, yn £1,452;
ii
yng nghategori 2, yn £2,739;
iii
yng nghategori 3, yn £1,986;
iv
yng nghategori 4, yn £1,986;
v
yng nghategori 5, yn £1,986.
b
os yw’r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(7), ar gyfer myfyriwr o’r fath—
i
yng nghategori 1, yn £1,452;
ii
yng nghategori 2, yn £2,739;
iii
yng nghategori 3, yn £2,227;
iv
yng nghategori 4, yn £2,227;
v
yng nghategori 5, yn £1,986.
c
os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X-Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
- i
yng nghategori 1, yn £2,734;
- ii
yng nghategori 2, yn £4,978;
- iii
yng nghategori 3, yn £4,046;
- iv
yng nghategori 4, yn £4,046;
- v
yng nghategori 5, yn £3,614;
- i
Y yw’r swm penodedig ym mharagraff (d).
d
y swm penodedig yw—
i
£664 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;
ii
£1,329 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw’r myfyriwr, sy’n dewis peidio â darparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo’n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;
iii
dim, pan nad fo’r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.