RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 201155

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011.

2

Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    1. i

      yng nghategori 1, yn £4,027;

    2. ii

      yng nghategori 2, yn £7,288;

    3. iii

      yng nghategori 3, yn £6,202;

    4. iv

      yng nghategori 4, yn £6,202;

    5. v

      yng nghategori 5, yn £5,202;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

3

Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—

  • X i fyfyriwr o’r fath—

    1. i

      yng nghategori 1, yn £3,645;

    2. ii

      yng nghategori 2, yn £6,636;

    3. iii

      yng nghategori 3, yn £5,394;

    4. iv

      yng nghategori 4, yn £5,394;

    5. v

      yng nghategori 5, yn £4,819;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

4

Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw’r canlynol—

a

os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 44 i gael swm o grant cynhaliaeth, mae’r swm y mae hwnnw’n hafal iddo yn £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i’w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,580;

b

os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 44, dim.