RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd53

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.

2

Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—

a

yng nghategori 1, £4,027;

b

yng nghategori 2, £7,288;

c

yng nghategori 3, £6,202;

d

yng nghategori 4, £6,202;

e

yng nghategori 5, £5,202.

3

Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o’r fath—

a

yng nghategori 1, £3,645;

b

yng nghategori 2, £6,636;

c

yng nghategori 3, £5,394;

d

yng nghategori 4, £5,394;

e

yng nghategori 5, £4,819.