RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW
Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd52
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw’n fyfyriwr carfan newydd (ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).
2
Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
- i
yng nghategori 1, yn £4,027;
- ii
yng nghategori 2, yn £7,288;
- iii
yng nghategori 3, yn £6,202;
- iv
yng nghategori 4, yn £6,202;
- v
yng nghategori 5, yn £5,202;
- i
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
3
Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yn hafal i (X–Y) pan fo—
X i fyfyriwr o’r fath—
- i
yng nghategori 1, yn £3,645;
- ii
yng nghategori 2, yn £6,636;
- iii
yng nghategori 3, yn £5,394;
- iv
yng nghategori 4, yn £5,394;
- v
yng nghategori 5, yn £4,819;
- i
Y yn swm y grant cynhaliaeth.
4
Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw—
a
os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 42 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw’n fwy na £1,329, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy;
b
os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 42 i gael swm o grant cynhaliaeth sy’n fwy na £1,329 , £1,329; ac
c
os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.