RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn51

1

Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys) yw, i fyfyriwr o’r fath—

a

yng nghategori 1, £3,987;

b

yng nghategori 2, £7,215;

c

yng nghategori 3, £6,140;

d

yng nghategori 4, £6,140;

e

yng nghategori 5, £5,150.

2

Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i’w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n flwyddyn derfynol cwrs nad yw’n gwrs dwys yw, i fyfyriwr o’r fath—

a

yng nghategori 1, £3,608;

b

yng nghategori 2, £6,570;

c

yng nghategori 3, £5,340;

d

yng nghategori 4, £5,340;

e

yng nghategori 5, £4,771.