RHAN 2CYMHWYSTRA

Cyrsiau dynodedig5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), (3) a (4) mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 4—

a

os yw wedi ei restru yn Atodlen 2;

b

os yw’n un o’r canlynol—

i

cwrs llawnamser;

ii

cwrs rhyngosod;

iii

cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon―

aa

a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

bb

sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 a’r myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

cc

a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 ac yr oedd y myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â’r cwrs; neu

iv

cwrs dysgu o bell ac eithrio cwrs y mae rheoliad 78(5) yn gymwys iddo;

c

os nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig;

d

os yw o leiaf—

i

yn parhau am un flwyddyn academaidd; neu

ii

yn parhau am chwe wythnos yn achos cwrs HCA ôl-radd hyblyg;

e

os yw’n cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu’n cael ei ddarparu gan sefydliad o’r fath ar y cyd â sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac

f

ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ac sy’n dod o fewn paragraffau 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy’n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 198846.

2

Nid yw cwrs, sy’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2, yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i ddarparu’r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

3

Nid yw cwrs a gymerir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon sydd wedi ei seilio ar gyflogaeth yn gwrs dynodedig.

4

Nid yw paragraff (1)(c) yn gymwys os bydd y person sy’n gwneud cais am gymorth o dan reoliad 9 mewn cysylltiad â’r cwrs—

a

yn fyfyriwr cymwys anabl; a

b

yn ymgymryd â’r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd bod y person yn analluog i fod yn bresennol am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y person hwnnw.

5

At ddibenion paragraff (1)—

a

mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’r sefydliad yn darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs neu beidio;

b

bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu’n gyhoeddus; ac

c

ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ddim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199247.

6

Bernir bod cwrs y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed—

a

os yw’r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu’r cymhwyster cyfatebol; a

b

os yw rhan o’r cwrs yn ddewisol.

7

Mae paragraff (6) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy’n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

8

At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998 a rheoliad 4(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).