RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Grant cymorth arbennig – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 201148

1

Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.

2

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—

a

os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;

b

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

c

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £3,555 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

d

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,761 ac A yn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

e

os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50; ac

f

os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.