RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW
Grant cymorth arbennig45.
(1)
Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 46 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2)
Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 47 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(3)
Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy’n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 48 mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(4)
Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw’r myfyriwr cymwys hwnnw—
(a)
(b)
(c)
yn atebol, neu’n cael ei drin fel pe bai’n atebol, i wneud taliadau mewn perthynas â’r llety y mae’n ei feddiannu fel ei gartref o dan reoliad 25(3) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013.
(5)
Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae grant cymorth arbennig yn daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
(6)
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd fod â hawl i gael grant cymorth arbennig.