RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW
Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyrwyr carfan 201144
1
Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,780.
2
Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £5,780;
b
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M-A, pan fo M yn £5,780 ac A yn £1 am bob £3.653 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
c
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £3,555 ac A yn £1 am bob £4.18 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;
d
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i SM–A pan fo SM yn £1,761 ac A yn £1 am bob £9.36 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;
e
os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £50;
f
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.