RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW
Grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd42
1
Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw’n fyfyriwr carfan newydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
a
yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500;
b
yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000;
c
yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,500; ac
d
yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £3,000.
2
Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
b
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
c
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £664.
3
Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
b
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
c
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw’r myfyriwr cymwys, wrth wneud cais am y grant, yn dewis peidio â darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,329.
4
Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £1,500;
b
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–(A/2) pan fo M yn £1,500 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
c
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–(A/2) pan fo RM yn £664 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
d
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.
5
Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o’r symiau a ganlyn mewn perthynas â’r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae’r myfyriwr cymwys yn cael £3,000;
b
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i M–A pan fo M yn £3,000 ac A yn £1 am bob £5.674 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
c
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae’r myfyriwr cymwys yn cael swm sy’n hafal i RM–A pan fo RM yn £1,329 ac A yn £1 am bob £8.97 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
d
os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.