RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW
Grant cynhaliaeth41
1
Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw’n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 42 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
2
Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2010 neu’n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 43 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
3
Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy’n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 44 at gostau byw mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
4
Nid oes hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i gael grant cynhaliaeth os oes hawl gan y myfyriwr cymwys hwnnw i gael grant cymorth arbennig.
5
Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae grant cynhaliaeth at gostau byw yn daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
6
Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd fod â hawl i gael grant cynhaliaeth at gostau byw.