RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW
Grantiau addysg uwch40
1
Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â’r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â’i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy’n cael eu hysgwyddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
2
Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
3
Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.
4
Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn—
a
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £16,765 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;
b
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £16,765 ac nad yw’n fwy na £22,750, mae’r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn cael swm sy’n hafal i M–A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £16,765; ac
c
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £22,750, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.