RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys4

1

Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

a

os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person am gymorth o dan reoliad 9, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

b

os nad yw’r person wedi ei hepgor gan baragraff (3).

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (7), ni fydd person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr cymwys—

a

os oes hen ddyfarniad wedi ei roi i A mewn perthynas â phresenoldeb A ar y cwrs;

b

os yw A yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

c

os rhoddwyd i A, neu os talwyd i A, mewn perthynas â’i bresenoldeb ar y cwrs—

i

bwrsari gofal iechyd, ac eithrio bwrsari gofal iechyd cyffredinol, nas cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm A; neu

ii

unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 200745;

d

os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

e

os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed ag A pan oedd A o dan 18 oed; neu

f

os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

4

At ddibenion paragraffau (3)(d) a (3)(e), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

5

Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, ni fydd paragraff 3(e) yn gymwys ac eithrio pan fo’r cytundeb wedi ei wneud—

a

cyn 25 Medi 1991, a

b

gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd gan y benthyciwr guradur.

6

Nid oes gan fyfyriwr cymwys, y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennwyd mewn perthynas ag ef yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2000 hawl, ar unrhyw un adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—

a

at fwy nag un cwrs dynodedig;

b

at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

c

at gwrs dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig;

d

at gwrs dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig.

7

Yn ddarostyngedig i baragraffau (9) i (11), os yw person yn bodloni’r amodau ym mharagraff (8)(a), (b) neu (c)—

a

nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i’r person; a

b

mae’r person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

8

Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

a

bod―

i

y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

ii

y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; a

iii

statws y person fel myfyriwr cymwys heb ei derfynu.

b

bod—

i

y cwrs presennol yn gwrs penben (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff (c) o’r diffiniad o “gwrs penben” yn rheoliad 2) y mae’r person yn cychwyn arno ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

ii

y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

iii

y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (b)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a

iv

y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b)(ii);

c

bod—

i

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o’r blaen bod y person—

aa

yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

bb

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig ac eithrio’r cwrs presennol; neu

cc

yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;

ii

statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs yn is-baragraff (c)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

iii

y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (c)(i); a

iv

statws y person fel myfyriwr cymwys heb ei derfynu.

9

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur—

i

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol; neu

ii

yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

b

ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu ei lys-riant, yn ôl fel y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

10

Os bydd—

a

Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson—

i

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs presennol; neu

ii

yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

b

ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

11

Nid yw paragraffau (9) a (10) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi cychwyn ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw, bod A yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr cymhwysol, yn ôl fel y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

12

Yn ddarostyngedig i baragraff (13), ni fydd carcharor sy’n dechrau’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn fyfyriwr cymwys oni bai—

a

ei fod yn garcharor cymwys;

b

ei fod yn fyfyriwr cymwys sydd wedi trosglwyddo i’r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2012 o dan reoliad 8 o gwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2012; neu

c

bod y cwrs presennol yn gwrs penben.

13

Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar.