RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau’r hawl i gael y grant at deithio37

1

Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono’n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â’r gwariant rhesymol y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys ei ysgwyddo mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu, mewn cysylltiad â chwrs y myfyriwr cymwys, unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw’n rhan o’r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol ac eithrio gwariant a ysgwyddir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.

2

Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys ynglŷn â’r gwariant rhesymol y mae’n orfodol iddo’i ysgwyddo ym mhob chwarter cymhwysol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o’i gwrs, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

4

Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 28(13) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, dim ond mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd y caiff myfyriwr cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.