RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Dehongli rheoliadau 37 i 3936

At ddibenion rheoliadau 37 i 39—

a

mae unrhyw gyfeiriad at wariant a ysgwyddir at y diben o fod yn bresennol mewn sefydliad neu gyfnod astudio neu gyfnod ar leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus—

i

yn cynnwys gwariant cyn ac ar ôl bod yn bresennol felly; a

ii

nid yw’n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 29;

b

ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter pan fo’r myfyriwr cymwys yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, mewn sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus, am o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw.