RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Grantiau ar gyfer dibynyddion – dehongli35

1

Yn rheoliadau 31 i 34—

a

yn ddarostyngedig i baragraff (5), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr cymwys, ac eithrio plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr cymwys;

b

mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw’n blentyn sy’n ddibynnol arno;

c

ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

d

ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

e

ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr cymwys;

f

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 31 i 34) yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

g

ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac y mae ganddo blentyn dibynnol;

h

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;

i

mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);

j

yn ddarostyngedig i is-baragraffau (p), (q), (r) a pharagraffau (3) a (4) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

i

priod myfyriwr cymwys;

ii

partner sifil myfyriwr cymwys;

iii

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

iv

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

k

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

l

ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

m

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr cymwys yn dod o’i mewn i’w asesu mewn perthynas â hi;

n

ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys);

o

ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”) yw, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, incwm trethadwy person o bob ffynhonnell a gyfrifiennir at ddibenion—

i

y Deddfau Treth Incwm;

ii

deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu

iii

pan fo deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth yn y cyfnod hwnnw odani,

ac eithrio nad ystyrir yr incwm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) a delir i barti arall;

p

oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—

i

os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

ii

os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;

q

at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

r

at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.

2

Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 197359 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 200460 sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.

3

At ddibenion rheoliad 33—

a

nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a

b

rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.

4

At ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—

a

priod i bartner myfyriwr cymwys;

b

partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;

c

pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn briod i B;

d

pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn bartner sifil i B;

5

Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin â pherson mewn oed neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—

a

yn ddibynnol ar—

i

y myfyriwr cymwys yn unig; neu

ii

partner y myfyriwr cymwys yn unig; ond

b

yn hytrach yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.

6

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol â pharagraff (5), os yw A—

a

yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

b

yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.

7

Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 31(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 34(2)) wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

a

unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

b

budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199261;

c

unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200262;

d

unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

e

yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 198963;

f

unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 198964;

g

unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno65;

h

unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 200266; ac

i

yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—

i

unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a

ii

unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).

8

Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys wedi ei ostwng—

a

o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu

b

o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi ysgwyddo rhwymedigaeth lai.

9

At ddibenion paragraff (7), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, rhaid trin y taliadau hynny fel incwm y plentyn dibynnol.

10

Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 5.

11

Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 5 (ac eithrio is-baragraffau (9), (10), neu (11) o baragraff 5) gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys.