- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
35.—(1) Yn rheoliadau 31 i 34—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (5), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr cymwys, ac eithrio plentyn y myfyriwr cymwys, partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr cymwys;
(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr cymwys sy’n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr cymwys gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw’n blentyn sy’n ddibynnol arno;
(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr cymwys, plentyn dibynnol y myfyriwr cymwys neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr cymwys;
(f)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm dibynnydd (y cyfrifir ei incwm o dan reoliadau 31 i 34) yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;
(g)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac y mae ganddo blentyn dibynnol;
(h)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd;
(i)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);
(j)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (p), (q), (r) a pharagraffau (3) a (4) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
(i)priod myfyriwr cymwys;
(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;
(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn briod i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai’r person yn bartner sifil i’r myfyriwr cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 ac wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(k)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
(l)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;
(m)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae incwm dibynnydd y myfyriwr cymwys yn dod o’i mewn i’w asesu mewn perthynas â hi;
(n)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff (10) (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff (11) (yn achos dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys);
(o)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”) yw, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gynharach, incwm trethadwy person o bob ffynhonnell a gyfrifiennir at ddibenion—
(i)y Deddfau Treth Incwm;
(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy’n gymwys i incwm y person; neu
(iii)pan fo deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y bydd y person yn talu’r swm mwyaf o dreth yn y cyfnod hwnnw odani,
ac eithrio nad ystyrir yr incwm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) a delir i barti arall;
(p)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (j) yn cael ei drin fel partner—
(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu
(ii)os yw’r person fel arfer yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;
(q)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;
(r)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan is-baragraff (j) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar y cwrs dynodedig a bennir neu’r ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.
(2) Yr incwm y cyfeirir ato yn y paragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(1) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o’r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(2) sy’n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o’r Atodlen honno.
(3) At ddibenion rheoliad 33—
(a)nid yw paragraff (1)(p) yn gymwys; a
(b)rhaid trin person fel partner os byddai’r person yn bartner o dan baragraff (1)(j) oni bai am y ffaith nad yw’r myfyriwr cymwys y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5.
(4) At ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gynbartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—
(a)priod i bartner myfyriwr cymwys;
(b)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;
(c)pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn briod i B;
(d)pan fo’r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner (“B”) myfyriwr cymwys fel petai A yn bartner sifil i B;
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin â pherson mewn oed neu blentyn fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw’r oedolyn neu’r plentyn—
(a)yn ddibynnol ar—
(i)y myfyriwr cymwys yn unig; neu
(ii)partner y myfyriwr cymwys yn unig; ond
(b)yn hytrach yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a’i bartner gyda’i gilydd.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol â pharagraff (5), os yw A—
(a)yn briod neu’n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
(b)yn gynbartner partner y myfyriwr cymwys.
(7) Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell (am y flwyddyn berthnasol at ddibenion rheoliad 31(2)(b) ac am y flwyddyn ariannol gynharach at ddibenion rheoliad 34(2)) wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—
(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3);
(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(4);
(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(5);
(f)unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(6);
(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno(7);
(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(8); ac
(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol—
(i)unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013, mewn perthynas â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith; a
(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).
(8) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o’r blaen gan y myfyriwr cymwys yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr cymwys, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys wedi ei ostwng—
(a)o swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu
(b)o unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, os gellid yn rhesymol, yn eu barn hwy, bod wedi ysgwyddo rhwymedigaeth lai.
(9) At ddibenion paragraff (7), os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn dibynnol, rhaid trin y taliadau hynny fel incwm y plentyn dibynnol.
(10) Penderfynir ar incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 5.
(11) Penderfynir ar incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed myfyriwr cymwys yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 5 (ac eithrio is-baragraffau (9), (10), neu (11) o baragraff 5) gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at ddibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys.
1973 p.18, diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p.53), adran 16 a chan Ddeddf Achosion Priodasol a Theulu 1984 (p.42), adran 21.
2004 p.33, diwygiwyd Atodlen 5 gan Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p.22), adran 17 ac Atodlen 11.
1992 p.4, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
1989 p.41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49(3) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23), adran 39 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7.
Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn. Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) yn adran 23C o ran Cymru, ac mae O.S. 2010/1329 (Cy.112) (C.81) ac O.S. 2011/ 824 (Cy. 123) (C. 32) yn cyfeirio at hyn.
Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: