RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Grantiau ar gyfer dibynyddion – eu cyfrifo34

1

Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, y swm sy’n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael o dan reoliadau 31 i 33 yw’r swm hwnnw o’r elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy’n hafal i (A - B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

a

i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 31;

b

i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 32; ac

c

i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 33.

2

Yn y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (11)—

  • A yw swm cyfanredol y canlynol—

    1. a

      incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach;

    2. b

      incwm gweddilliol dibynnydd mewn oed y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; ac

    3. c

      yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gynharach; a

  • B yw—

    1. a

      £1,159 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;

    2. b

      £3,473 os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    3. c

      £4,632—

      1. i

        os nad yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

      2. ii

        os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;

    4. d

      £5,797 os yw’r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol gynharach, caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

4

Os digwydd bod paragraff (3) neu’r paragraff hwn wedi ei gymhwyso mewn perthynas â blwyddyn academaidd flaenorol y cwrs presennol a bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debygol o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling eu hincwm net yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion galluogi’r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm net y plant dibynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

5

Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm net plant dibynnol y myfyriwr cymwys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol o dan baragraff (3), neu, pan fo’n gymwys, o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm net y plant dibynnol yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

6

Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (9) ac (16), os yw B yn fwy na neu’n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w chael yn daladwy.

7

Os yw (A - B) yn hafal i neu’n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau’r grantiau ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

8

Gostyngir swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

a

os yw partner y myfyriwr cymwys—

i

yn fyfyriwr cymwys; neu

ii

yn dal dyfarniad statudol; a

b

os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

9

Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—

a

os yw partner y myfyriwr cymwys—

i

yn fyfyriwr cymwys; neu

ii

yn dal dyfarniad statudol; a

b

os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i’w gael neu’r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

10

Os yw swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy’n daladwy yw £50.

11

Mae paragraffau (12) i (15) yn gymwys os bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—

a

bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

b

bod person yn dod yn ddibynnydd i’r myfyriwr cymwys neu’n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

c

bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu’n peidio â bod yn rhiant unigol;

d

bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 28(13).

12

Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau’r myfyriwr cymwys yn y chwarter perthnasol—

a

faint o ddibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

b

pwy yw’r dibynyddion hynny;

c

a yw’r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

13

Swm y grantiau ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni wedi eu cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (14) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

14

Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a’r lwfans dysgu ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu’r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau’r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y’u pennir o dan baragraff (12) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

15

Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—

a

yn achos myfyriwr cymwys y cyfeirir ato ym mharagraff (11)(d), chwarter sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

b

fel arall, chwarter ac eithrio’r chwarter pryd y mae’r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

16

Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o’r swm sy’n daladwy o ran elfen benodol o’r grantiau ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.