RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Grantiau ar gyfer dibynyddion - grant ar gyfer dibynyddion mewn oed31

1

Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Mae’r grant ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai—

a

yn bartner i’r myfyriwr cymwys; neu

b

yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net am y flwyddyn berthnasol yn fwy na £3,923.

3

Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 34, a’r swm sylfaenol yw—

a

£2,732; neu

b

os yw’r person y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.