RHAN 1CYFFREDINOL

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol3

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (12), mae Rheoliadau 2012 wedi eu dirymu ar 1 Medi 2014.

2

Mae Rheoliadau 2003 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

3

Mae Rheoliadau 2004 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

4

Mae Rheoliadau 2005 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

5

Mae Rheoliadau 2006 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

6

Mae Rheoliadau 2007 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.

7

Mae Rheoliadau 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.

8

Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.

9

Mae Rheoliadau 2009 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

10

Mae Rheoliadau 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2011 ond cyn 1 Medi 2012.

11

Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2011 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ond cyn 1 Medi 2013.

12

Mae Rheoliadau 2012 yn parhau’n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 ond cyn 1 Medi 2014.

13

At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i’w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—

a

Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o Ddeddf Addysg Uwch 200444; neu

b

Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.

14

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2014 pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2014.

15

Pan fo person—

a

yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu

b

heb gael dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â phresenoldeb y person hwnnw ar gwrs, ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi ei roi pe bai’r person wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai adnoddau’r person wedi bod yn fwy na’i anghenion,

rhaid trin y person hwnnw fel myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn, mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai’r dyfarniad (a roddwyd neu y byddid wedi ei roi) wedi ei drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf y cwrs, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.

16

Oni bai bod paragraff (17) yn gymwys i’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (15), bydd hawl gan y person hwnnw i gael cymorth ar ffurf benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 o’r Rheoliadau hyn os yw’r person hwnnw—

a

yn fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn; a

b

yn bodloni amodau’r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno.

17

Os cafodd person fenthyciad, neu os oedd person yn gymwys i gael benthyciad o ran blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998 rhaid trin y person hwnnw fel myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn mewn cysylltiad ag—

a

y cwrs hwnnw; neu

b

unrhyw gwrs dynodedig dilynol (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) y mae’r person yn cychwyn arno, yn union ar ôl terfynu’r cwrs hwnnw,

  • er gwaethaf unrhyw ddarpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn.

18

Oni bai bod paragraff (15) yn gymwys i’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (17), bydd hawl gan y person hwnnw i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn os yw’r person hwnnw—

a

yn fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn; a

b

yn bodloni’r amodau hawl perthnasol i gael cymorth o dan y Rhannau hynny.